Cymorth - Hwb Rhannu Digidol
Uwchlwytho adnoddau i'r Hwb Rhannu Digidol
Dechrau arni
- Ewch i Adnoddau yn y ddewislen lywio
- Dewiswch Ychwanegu adnodd
Dewis iaith eich adnodd
Defnyddiwch y newidydd iaith (sy'n ymddangos fel baner) ar y dudalen uwchlwytho i ddewis eich iaith.
Gallwch uwchlwytho adnoddau yn:
- Saesneg
- Cymraeg
- Cymraeg a Saesneg
Wrth uwchlwytho adnodd yn Gymraeg a Saesneg, cofiwch arbed eich adnodd yn eich iaith gychwynnol cyn uwchlwytho'r cyfieithiad.
Creu teitl a disgrifiad esboniadol
Dylai'r teitl roi gwybodaeth i bobl am y pynciau o dan sylw yn yr adnodd.
Dylai disgrifiad da gynnwys gwybodaeth am:
- beth yw'r adnodd
- y pwnc y mae'n ymdrin ag o
- sut mae'n ddefnyddiol
- pwy a’i creodd
- i bwy y gall fod yn ddefnyddiol
Ymgorffori cyfryngau
Gallwch ymgorffori fideo, podlediad neu gyfryngau eraill yng ngolygydd y maes Disgrifiad.
- Copïwch y cod ymgorffori (embed code) perthnasol o'r wefan trydydd parti, fel YouTube
- Dewiswch Source yng ngolygydd y disgrifiad
- Gludiwch y cod mewnosod i'r golygydd
- Dewiswch Source eto i ddychwelyd i'r golygydd safonol.
Ychwanegu delweddau
I ychwanegu delwedd:
- dewiswch y symbol delwedd bach yng ngolygydd y disgrifiad. Bydd hyn yn agor sgrin newydd
- dewiswch ddelwedd sy'n bodoli eisoes neu uwchlwythwch un newydd
- dewiswch Ychwanegu
Dylai'r ddelwedd ymddangos yng ngolygydd y disgrifiad nawr.
Ychwanegu categorïau
Mae'r categorïau hyn yn helpu defnyddwyr i ddod o hyd i adnoddau:
- Math: rhowch wybodaeth berthnasol am fwriad eich adnodd – a yw'n sôn am strategaeth, yn darparu arweiniad neu a yw'n cael ei ddefnyddio mewn hyfforddiant ar gyfer sgiliau a datblygu?
- Math o gynnwys: rhowch wybodaeth berthnasol am gyfrwng eich adnodd. A yw'n weminar, clip fideo neu ddec cyflwyno?
- Gwasanaeth cyhoeddus: Rhowch wybodaeth am ffynhonnell wreiddiol eich adnodd. Er enghraifft, a yw'n dod o lywodraeth leol neu'r trydydd sector?
- Atodiadau: Os oes angen i chi uwchlwytho'ch adnodd fel atodiad.
- Dolen: Os yw'ch adnodd ar y we, ychwanegwch y ddolen.
- Pwnc: dewiswch un neu fwy o brif feysydd pwnc yr adnodd
- Tagiau: Defnyddiwch dagiau i dynnu sylw at feysydd a phynciau eraill sy'n berthnasol i'ch adnodd. Peidiwch â chreu tag newydd os oes un perthnasol yn bod eisoes.
Nid oes angen i chi gwblhau pob un maes ond ychwanegwch gymaint ag y gallwch.
Cyhoeddi eich adnodd
Dewis Cadw.
Os byddwch chi'n gweld baner goch gyda neges gwall, adolygwch y neges gwall a diwygiwch y wybodaeth rydych chi wedi'i darparu.