AI a’r Gymraeg - Postyn blog o Lywodraeth Cymru

Crëwyd Gan:  thumbnail Peter Thomas
Dyddiad creu: 05 Rhag 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 05 Rhag 2024

Postiad gan Indeg, Tîm Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru - Blog Digidol a Data

Wrth gyhoeddi’r Cynllun gweithredu technoleg Cymraeg yn 2018, ein nod oedd creu datblygiadau technolegol fyddai’n galluogi ni i ddefnyddio mwy o Gymraeg mewn ystod eang o sefyllfaoedd. Ym mis Chwefror 2024, cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ar y pryd yr adroddiad terfynol ar y Cynllun hwn, gan edrych yn ôl ar ein cynnydd, gan gynnwys ym maes deallusrwydd artiffisial (AI).

Ers hynny, rydyn ni wedi lansio galwad am wybodaeth yn gofyn am farn a syniadau ar y camau nesaf ar gyfer technoleg iaith Gymraeg. Daeth yr alwad hon am wybodaeth i ben ar 01 Hydref, ac rydyn ni wrthi’n ystyried yr ymatebion. Diolch yn fawr iawn i bawb a ddanfonodd eu syniadau i mewn!

Drwy adeiladu’r seilwaith ar gyfer technoleg iaith Gymraeg fel hyn, rydyn ni’n annog pobl i ddefnyddio mwy o Gymraeg, sy’n ein helpu i gyrraedd ein nod ar gyfer Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg.

Rydyn ni hefyd yn cefnogi Strategaeth Ddigidol Cymru drwy ddatblygu offer a thechnolegau digidol sy’n galluogi pobl i gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus gwell yn Gymraeg.

 

Darllenwch mwy ar y blog

Pwnc: AI