Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol - Canllawiau Deallusrwydd Artiffisial (DA)

Crëwyd Gan:  thumbnail Peter Thomas
Dyddiad creu: 24 Ion 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Chwef 2024

Ar gyfer pwy mae'r canllaw hwn?

Mae'r canllaw hwn ar gyfer weithwyr cyrff cyhoeddus yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban sy'n:

  • Caffael, comisiynu, adeiladu neu addasu deallusrwydd artiffisial (DA) ar gyfer eu gweithle neu'r gwasanaethau a ddarperir ganddynt
  • Gyfrifol am wneud penderfyniadau am sut a phryd i gyflwyno DA
  • Gyfrifol am ddefnyddio deallusrwydd artiffisial, neu sy’n goruchwylio ar unrhyw wasanaeth sy'n defnyddio deallusrwydd artiffisial
  • Gyfrifol am hyfforddi staff sy'n defnyddio deallusrwydd artiffisial

Bydd hefyd yn ddefnyddiol i weithwyr sy'n gyfrifol am ddatblygu neu ddefnyddio DA fel rhan o wasanaeth y maent yn ei ddarparu ar ran corff cyhoeddus.

Beth sydd yn y canllaw hwn?

Mae'r canllaw hwn yn cynnwys:

  • Esboniad o beth yw deallusrwydd artiffisial
  • Arweiniad ar sut mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn berthnasol pan fydd corff cyhoeddus yn defnyddio deallusrwydd artiffisial
  • Rhestr wirio ar gyfer cyrff cyhoeddus

Nid yw'n cynnwys sut gall camddefnyddio deallusrwydd artiffisial arwain at dorri cyfreithiau eraill, megis Deddf Diogelu Data 2018 a Deddf Hawliau Dynol 1998.

Pwnc: AI » AI llywodraethu