Llywodraeth y DU – Canllaw ar gyfer rheolyddion – Gweithredu egwyddorion rheoleiddio deallusrwydd artiffisial y DU

Crëwyd Gan:  Mike Thomas
Dyddiad creu: 07 Chwef 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 06 Maw 2024

Mae’r canllaw yn nodi’r ystyriaethau i reolyddion wrth ddatblygu offer a chanllawiau i weithredu dull y DU o reoleiddio deallusrwydd artiffisial. Mae’n adeiladu ar eu hymrwymiad yn y Papur Gwyn i gynhyrchu canllawiau ar gyfer rheolyddion i gefnogi gweithredu'r pum egwyddor reoleiddiol y DU o blaid arloesedd.