Demystifying Artificial Intelligence: Separating Fact from Fiction 

Crëwyd Gan:  thumbnail Richard James
Dyddiad creu: 13 Chwef 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 27 Chwef 2024
Arall

Yn yr blog yma mae’r Scottish AI Alliance yn ymchwilio’r chwedlau sydd yn cael eu rhannu yn y cyfryngau am DA (Deallusrwydd Artiffisial). Mae’r blog yn cynnig asesiad risg cytbwys, heb gyffro'r cyfryngau am y pwnc. Yn ychwanegol, mae’r awdur yn cynnig mewnwelediad da i risgiau go iawn DA.

Anhawster: Dechreuwr

Pwnc: Risgiau o DA

Fformat: Blog

Amcangyfrif o’r amser i ddarllen: 9 munud

Linc i’r adnodd:

Demystifying Artificial Intelligence: Separating Fact from Fiction

Pynciau:  

  • Y posibilrwydd o Ddeallusrwydd Artiffisial Cyffredinol (AGI)
  • Y posibilrwydd o ddifodiant oherwydd ddeallusrwydd artiffisial (DA)
  • Y risg mae DA yn cael ar atebolrwydd
  • Effaith DA ar swyddi
  • Dibynadwyedd DA
  • Natur foesegol DA
  • Cynhwysiant cymdeithasol DA

Sut i ddefnyddio’r adnodd:

Mae’r adnodd yma yn helpu ni i adnabod y risg i ein cymdeithas gan ddeallusrwydd artiffisial heb hysteria'r cyfryngau. Gan ddefnyddio’r adnodd yma gallwch ymateb yn ffordd resymol i oblygiadau deallusrwydd artiffisial ac adnabod a diogelu yn erbyn y risgiau wrth greu polisïau a fframweithiau. I gyrff cyhoeddus, gall ymateb cytbwys helpu efo cysylltiadau cyhoeddus – yn enwedig wrth drio ennill ffydd y cyhoedd fod technoleg deallusrwydd artiffisial yn cael eu gweithredu yn ffordd foesegol a theg.

Dibynadwyedd:  Mae’r Scottish AI Alliance yn gweithio efo llywodraeth yr Alban i helpu datblygu strategaeth deallusrwydd artiffisial yr Alban. Mae cadeirydd y grŵp wedi’i apwyntio gan weinidogion, ac yn goruchwylio’r The Data Lab.