Gogledd Iwerddon - Ymateb i ‘fap ffordd’ deallusrwydd artiffisial (DA)

Crëwyd Gan:  thumbnail Richard James
Dyddiad creu: 13 Chwef 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 01 Maw 2024

Ymateb i ‘fap ffordd’ Gogledd Iwerddon, wedi’i chynhyrchu gan sawl corff cyhoeddus, sy’n trafod y ffordd orau i weithredu addasiadau deallusrwydd artiffisial (DA). Mae’r adroddiad yn pwysleisio’r blaenoriaethau ac ystyriaethau allweddol ar gyfer gweithredu technoleg DA mewn i gymdeithas, fel isadeiledd addysg, sut i ddefnyddio asedau a ariennir gan y cyhoedd (fel y Lovelace Foundation a’r Turning Institute), a sut i wella'r ymchwil mewn i DA.

Fformat: PDF

Linc:  Northern Ireland - Response to the AI Council AI Roadmap (Saesneg yn unig)

Pynciau:  

  • Blaenoriaethau allweddol ar gyfer addasu DA yng Ngogledd Iwerddon
  • Effaith DA (gydag ystadegau)
  • Mapiau ffordd ar gyfer ymchwil a datblygu
  • Mapiau ffordd ar gyfer isadeiledd data ac ymddiriedaeth y cyhoedd
  • Awgrymiadau ar gyfer blaenoriaethau a strategaethau addasu​​​​​​

Sut i ddefnyddio’r adnodd yma: 

Bydd yr adnodd yma yn helpu cyrff cyhoeddus deall sut i weithredu technoleg DA i gadw technoleg Cymru’n gystadleuol.  Mae’r map ffordd yma yn ddefnyddiol ar gyfer deall y rôl bydd rhaid i brifysgolion, ymchwil ac addysg chwarae mewn creu technoleg DA a dysgu'r sgiliau i greu a defnyddio DA.

Dibynadwyedd:

Cyhoeddwyd y canllaw a strategaeth yma gan gasgliad o gyrff cyhoeddus yn Ogledd Iwerddon (gan gynnwys Queen's University, Ulster University, Belfast Met a Belfast City Council).