Risg Deallusrwydd Artiffisial ≠ Risg Deallusrwydd Cyffredinol Artiffisial
Erthygl blog gan Gary Marcus sy’n trafod y risgiau sy’n dod o reolaeth wael dros fodelau iaith fawr (LLMs) deallusrwydd artiffisial fel ChatGPT. Mae’r erthygl yma yn amlinellu'r ffyrdd gall LLMs cael eu camddefnyddio gan droseddwyr i gasglu gwybodaeth bersonol o ffynonellau ar-lein ac i helpu propaganda terfysgon.
Fformat: Erthygl blog
Amcangyfrif o’r amser i ddarllen: 7 munud
Linc i’r adnodd: Risg Deallusrwydd Artiffisial ≠ Risg Deallusrwydd Cyffredinol Artiffisial
Pynciau:
• Yr ods o greu AGI
• Y risgiau posib o LLM fel ChatGPT
• Sut mae’r risg go iawn yw dros reoliad deallusrwydd artiffisial
Sut i ddefnyddio’r adnodd:
Mae’r adnodd yn dda am amlygu bod y risgiau posib o fodelau deallusrwydd artiffisial fel ChatGPT yn dod o sut gall pobl defnyddio’r modelau yn ffyrdd niweidiol a dinistriol fel trosedd, nid y modelau eu hun. Mae’n dangos bod hi'n angenrheidiol i adeiladu fframwaith i reoli a chyfyngu defnyddiad deallusrwydd artiffisial.
Dibynadwyedd:
Athro seicoleg a niwrowyddoniaeth yn Prifysgol Efrog Newydd yw Gary Marcus. Mae e wedi ymchwilio a chyhoeddi astudiaethau ar ddeallusrwydd artiffisial.