Cyhoeddwyd CDEI ymchwil ar arweiniad deallusrwydd artiffisial
Cyhoeddwyd y Centre for Data Ethics and Innovation (CDEI) ymchwil am ddisgwyliadau'r cyhoedd ar lywodraethu deallusrwydd artiffisial. Mae’r ymchwil yn sôn am y disgwyliadau am dryloywder, tegwch ac atebolrwydd. Mae'r adnodd yn cynnwys adroddiad ymchwil ansoddol a'r data pôl.
Fformat: Adroddiad ansoddol CDEI (PDF)
Data pôl (XLS)
Linc i’r adnodd: Ymchwil CDEI ar arweiniad deallusrwydd artiffisial
Pynciau:
- Cyflwyniad a chanfyddiadau
- Canfyddiadau’r cyhoedd o ddeallusrwydd artiffisial
- Cymwysiadau byd go iawn o ddeallusrwydd artiffisial
- Goblygiadau o lywodraethu deallusrwydd artiffisial
Data pôl
Sut i ddefnyddio’r adnodd:
Mae’r adnodd yma yn wych ar gyfer deall canfyddiadau’r cyhoedd o ddeallusrwydd artiffisial. Mae’r wybodaeth pôl yn dod o ystod eang o ddemograffeg ar draws y DU ac yn dadansoddi eu barn am sectorau mawr o ddefnydd deallusrwydd artiffisial. Wrth ddeall canfyddiadau'r cyhoedd, rydym yn gallu llywodraethu deallusrwydd artiffisial yn well ac mewn ffordd sy’n hybu ffydd y cyhoedd.
Dibynadwyedd: Cyhoeddwyd y CDEI yr ymchwiliad ar gyfer papur gwyn y llywodraeth ar lywodraethu deallusrwydd artiffisial. Mae’r data pôl wedi’i chyhoeddi hefyd ar gyfer craffu.