Beth sy’n digwydd pan mae algorithmau yn anghywir?
Podlediad gan In Machines We Trust sy’n edrych ar esiamplau go-iawn o beth sy’n digwydd pan mae algorithmau yn anghywir. Mae’r podlediad yn adolygu cyfweliad efo Robert Williams, dyn wedi’i arestio ar gam gan heddlu Detroit oherwydd o ddeallusrwydd artiffisial sy’n adnabod wynebau. Mae’r podlediad yn pwysleisio nad yw deallusrwydd artiffisial yn anffaeledig ac mae’n rhaid creu systemau efo prosesau penderfynu wedi’i wneud gan bobl.
Fformat: Podlediad
Linc:
What happens when an algorithm gets it wrong (Saesneg yn unig)
Pam mae’r podlediad yma yn dda?
Mae’r podlediad yma yn rhannu chwedl rybuddiol am ddefnyddio deallusrwydd artiffisial a’r effaith gall systemau ffaeledig gael ar bobl.
Dibynadwyedd:
Podlediad wedi’i rhedeg a’i cynhelir gan MIT Technology Review yw In Machines We Trust.