Sgyrsiau Mellt DU Deallusrwydd Artiffisial (DA) 2023

Crëwyd Gan:  thumbnail Richard James
Dyddiad creu: 28 Chwef 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 04 Maw 2024
Arweiniad
Clip fideo
trydydd sector

Mae DA DU yn rhannu sgyrsiau cyflym ar wyddor data a deallusrwydd artiffisial (DA). Mae’r fideo yma yn cynnwys pynciau ymchwil o fonitro gwyfynod i sut gall deallusrwydd artiffisial helpu efo problemau cymdeithasol.

Linc: Bitesize Talks on Cutting-Edge AI Research (Saesneg yn unig)

Pynciau:

•    Ydych chi’n siŵr? Dysgu efo ansicrwydd dynol
•    Monitro bioamrywiaeth efo cymorth DA
•    Gwyddor data ar gyfer tegwch iechyd ac i chi
•    Pŵer cydweithredol: Adeiladu rhwydwaith ar draws y DU ar gyfer DA ac ymchwil amryfal am gyflyrau hirdymor
•    Piblinell ar gyfer echdynnu tystiolaeth o golled cnwd oddi wrth adroddiadau gwyddonol
•    Datblygu fframwaith effeithiol ar gyfer olrhain cysylltiadau efo gefeilliaid digidol a DA

Pwnc: AI