Demystifying Artificial Intelligence: Separating Fact from Fiction
Yn yr blog yma mae’r Scottish AI Alliance yn ymchwilio’r chwedlau sydd yn cael eu rhannu yn y cyfryngau am DA (Deallusrwydd Artiffisial). Mae’r blog yn cynnig asesiad risg cytbwys, heb gyffro'r cyfryngau am y pwnc. Yn ychwanegol, mae’r awdur yn cynnig mewnwelediad da i risgiau go iawn DA.
Anhawster: Dechreuwr
Pwnc: Risgiau o DA
Fformat: Blog
Amcangyfrif o’r amser i ddarllen: 9 munud
Linc i’r adnodd:
Demystifying Artificial Intelligence: Separating Fact from Fiction
Pynciau:
- Y posibilrwydd o Ddeallusrwydd Artiffisial Cyffredinol (AGI)
- Y posibilrwydd o ddifodiant oherwydd ddeallusrwydd artiffisial (DA)
- Y risg mae DA yn cael ar atebolrwydd
- Effaith DA ar swyddi
- Dibynadwyedd DA
- Natur foesegol DA
- Cynhwysiant cymdeithasol DA
Sut i ddefnyddio’r adnodd:
Mae’r adnodd yma yn helpu ni i adnabod y risg i ein cymdeithas gan ddeallusrwydd artiffisial heb hysteria'r cyfryngau. Gan ddefnyddio’r adnodd yma gallwch ymateb yn ffordd resymol i oblygiadau deallusrwydd artiffisial ac adnabod a diogelu yn erbyn y risgiau wrth greu polisïau a fframweithiau. I gyrff cyhoeddus, gall ymateb cytbwys helpu efo cysylltiadau cyhoeddus – yn enwedig wrth drio ennill ffydd y cyhoedd fod technoleg deallusrwydd artiffisial yn cael eu gweithredu yn ffordd foesegol a theg.
Dibynadwyedd: Mae’r Scottish AI Alliance yn gweithio efo llywodraeth yr Alban i helpu datblygu strategaeth deallusrwydd artiffisial yr Alban. Mae cadeirydd y grŵp wedi’i apwyntio gan weinidogion, ac yn goruchwylio’r The Data Lab.