Canllawiau am Gaffael Deallusrwydd Artiffisial (AI)
Canllawiau am Gaffael Deallusrwydd Artiffisial (AI): Crynodeb o arfer gorau sy'n ateb cwestiynau penodol am gaffael technolegau Deallusrwydd Artiffisial yn y llywodraeth.
Mae'r canllawiau hyn yn canolbwyntio ar ac yn ehangu ar y deg ystyriaeth wedi ei rhestri isod, sy'n gweithio fel yr egwyddorion craidd a hefyd rhestr ddefnyddiol i ddilyn wrth gaffael technolegau deallusrwydd artiffisial (AI).
Y Deg Ystyriaeth Mwyaf Pwysig:
1. Sicrhewch fod caffael yn rhan o'ch strategaeth ar gyfer mabwysiadu deallusrwydd artiffisial.
2. Gwnewch benderfyniadau mewn tîm amlddisgyblaethol ac amrywiol.
3. Cyn dechrau'r broses, cynnal asesiad ddata.
4. Asesu'r manteision a risgiau o ddefnyddio deallusrwydd artiffisial.
5. Gweithiwch yn agos ac yn effeithiol gyda'r farchnad o'r dechrau.
6. Dechrau'n iawn gan ganolbwyntio ar y sialensiau yn hytrach nag ateb penodol.
7. Datblygwch gynllun ar gyfer llywodraethu a sicrwydd gwybodaeth.
8. Osgoi algorithmau 'Black Box' a 'vender lock in'.
9. Canolbwyntiwch ar bwysigrwydd y cyfyngiadau technegol a moesegol o ddefnyddio deallusrwydd artiffisial yn ystod eich gwerthusiad.
10. Ystyriwch reolaeth cylch bywyd y system deallusrwydd artiffisial.