Archwilio Hawliau Plant a Deallusrwydd Artiffisial (DA)

Crëwyd Gan:  thumbnail Richard James
Dyddiad creu: 14 Chwef 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 07 Maw 2024

Erthygl wedi’i phostio gan The Alan Turing Institute sy’n coladu sawl adnodd ar fframweithiau polisi presennol a newydd i amddiffyn plant rhag effeithiau DA. Mae’r adnoddau yn cynnwys astudiaeth achos gan CEF, arweiniad polisi ar DA gan UNICEF, pecyn cymorth am DA gan WEF, cod dylunio oed-addas gan yr ICO a Bil Diogelwch Ar-lein y DU. Maent yn defnyddio’r adnoddau yma i drafod y pedwar prosiect ymgymerwyd i ddatblygu hawliau plant o gwmpas DA.

Fformat: Blog 

Amcangyfrif o’r amser i ddarllen: 7 munud

Linc i'r adnodd: Exploring Children's Rights and AI (Saesneg yn unig)

Pynciau wedi’u cynnwys:

  • Treialu canllawiau polisi'r UNICEF ar DA i blant
  • Adolygu fframweithiau presennol a newydd ar gyfer hawliau plant a DA
  • Ymgysylltu â phlant ledled yr Alban i lunio dyfodol DA
  • Astudiaethau mapio ar fframweithiau cyfreithiol wedi'u hymwneud ag DA a hawliau plant

Dibynadwyedd
Sefydliad cenedlaethol ar gyfer gwyddor data a deallusrwydd artiffisial yw'r Alan Turing Institute.