Rhestr wirio'r ICO ar gyfer defnyddio deallusrwydd artiffisial (DA) cynhyrchiol
Mae’r ICO wedi rhannu rhestr gwirio efo byr o wyth cwestiwn ar gyfer datblygwyr a defnyddwyr o DA i ofyn i ddylunio systemau sy’n defnyddio DA. Mae’r rhestr wirio wedi’i dylunio i sicrhau dydych chi ddim yn torri deddfau diogelu data wrth ddefnyddio systemau DA.
Fformat: Erthygl Blog
Amcangyfrif o’r amser i ddarllen: 4 munud
Linc i'r adnodd: Generative AI: eight questions that developers and users need to ask (Saesneg yn unig)
Rhestr o bynciau:
• Beth yw'ch sylfaen gyfreithlon ar gyfer prosesu data personol?
• Ydych chi'n rheolydd, yn rheolydd cyfunol, neu'n brosesydd?
• A ydych wedi paratoi asesiad o'r effaith ar ddiogelu data (DPIA)?
• Sut byddwch yn sicrhau tryloywder?
• Sut byddwch yn lleddfu'r risgiau diogelwch?
• Sut byddwch yn cyfyngu prosesau diangen?
• Sut byddwch yn cydymffurfio â cheisiadau hawliau unigol?
• A fyddwch chi'n defnyddio DA cynhyrchiol i wneud penderfyniadau awtomataidd yn unig?
Sut i ddefnyddio’r adnodd:
Defnyddiwch yr adnodd yma wrth ddylunio systemau sy’n defnyddio DA i sicrhau nad yw’ch system yn torri unrhyw ddeddfau diogelu data.
Dibynadwyedd:
Corff annibynnol sy’n cynnal hawliau gwybodaeth yw Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.