GWEMINAR: Sgiliau data i bawb (Data Cymru)

Crëwyd Gan:  Former Member
Dyddiad creu: 22 Chwef 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 22 Chwef 2024
Sgiliau a datblygiad

Gweminar sydd yn trafod pam mae datblygu sgiliau data ar draws eich gweithlu presennol, a dyfodol, mor bwysig (a beth mae Data Cymru yn wneud i helpu).

“Fel sefydliadau sector cyhoeddus, mae gennym lawer iawn o ddata a fydd yn helpu i chwyldroi’r ffordd rydym yn darparu gwasanaethau addas ar gyfer yr 21ain ganrif sy’n esblygu. Ond heb y gallu i gyrchu, deall a chymhwyso’r data, mae’n ddim ond rhifau a safbwyntiau…

Dyna pam rydym ni, Data Cymru, yn gweithio gyda’n cydweithwyr yn y sector cyhoeddus i helpu i ddatblygu’r sgiliau sylfaenol hyn ac, efallai’n bwysicach, yr hyder i’w cymhwyso, ar draws y gweithlu presennol, a gweithlu’r dyfodol. Yn y weminar hon, byddwn yn eich cyflwyno i DataBasicCymru, ein rhaglen hyfforddiant ar-lein, di-dâl. Byddwn yn clywed oddi wrth gydweithwyr sydd wedi cwblhau’r rhaglen a fydd yn siarad am eu profiadau a’r buddion maent wedi’u gweld o ganlyniad. Byddwch yn clywed hefyd am Addysg DataBasic – ein hadnodd hyfforddiant dwyieithog newydd, di-dâl, a ddyluniwyd i helpu ysgolion a disgyblion ledled Cymru i ddatblygu sgiliau llythrennedd data a gwybodaeth. Os ydych chi am ddysgu sut allwch chi ddatblygu’ch sgiliau data chi neu helpu pobl eraill i wneud, dyma’r weminar i chi!”

Pwnc: AI AI » AI sgiliau a galluoedd