Cymwysterau Cymru - Digidol i’r Dyfodol
Fel rhan o'u Blaenoriaethau Strategol 2022-2027, nod Cymwysterau Cymru yw annog moderneiddio dulliau asesu a pharatoi darparwyr dysgu ar gyfer mwy o asesu digidol. Fel rhan o hyn, adolygwyd technolegau digidol i gefnogi’r daith tuag at asesiadau digidol. Enw’r adolygiad yw Digidol i’r Dyfodol: Adolygiad Sector o Gymwysterau a’r System Gymwysterau ym maes Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu.
“Mae’r sector digidol yn faes â blaenoriaeth i Gymru ac mae’n sbarduno datblygu economaidd a newidiadau cymdeithasol ehangach. Mae’n sector mawr sy’n cyflogi mwy na 30,000 o bobl mewn bron i 4000 o fusnesau ledled Cymru. Mae’r sector yn symud yn gyflym, gyda newidiadau technolegol yn digwydd dros nos, i bob golwg. Mae’r newidiadau cyflym hyn, gyda’r sector digidol yn y DU yn symud 2.6 gwaith yn gyflymach na gweddill yr economi, yn cyflwyno llawer o heriau i gymwysterau a’r system gymwysterau. Mae’r prinder o ran sgiliau digidol yn y DU a gofnodwyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd cymwysterau i ddatblygu sgiliau digidol pobl ifanc. Gyda bron i 20,000 o dystysgrifau cymwysterau wedi’u dyfarnu i ddysgwyr yng Nghymru yn y sector hwn yn ystod 2016-17, mae’n hanfodol bod dysgwyr yn cael eu paratoi'n effeithiol i weithio mewn byd digidol sy’n newid yn gyflym.”
Cynnwys:
- Pennod 2: Y sector Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu yn ei gyd-destun
- Pennod 4: Y cymwysterau a gynigir yn gyffredinol
- Pennod 5: Cynnwys cymwysterau a pha mor gyfredol ydynt
- Pennod 6: Asesu
- Pennod 7: Adnoddau addysgu – staff a chyfarpar
- Pennod 8: Astudiaeth gymharu ryngwladol
- Pennod 9: Y camau gweithredu y byddwn yn eu cymryd
Link: https://cymwysterau.cymru/media/cf3h4grr/digidol-i-r-dyfodol-adolygiad-sector-o-gymwysterau-a-r-system-gymwysterau-ym-maes-technoleg-gwybodaeth-a-chyfathrebu.pdf