Trafodaethau pwysig am ddeallusrwydd artiffisial (DA) gan Intel (2023)
Mae Intel wedi rhannu eu rhestr o ‘trafodaethau am ddeallusrwydd artiffisial i beidio colli yn 2023’. Mae’r podlediadau yn cynnwys trafodaethau am reoleiddio DA yn yr UD, gorchymyn gweithredol yr UD ar DA, pam a sut mae sefydliadau yn addasu modelau iaith fawr (LLM), a diffiniadau hawdd i’w ddeall o ddysgu dwfn.
Fformat: Podlediad
Linc: https://intechnology.intel.com/episodes/top-conversations-ai-2023/ (Saesneg yn unig)
Pam mae’r adnodd yma yn dda?
Mae Intel yn cyflwyno rhestr o bodlediadau sy’n archwilio amrywiaeth o bynciau - fel polisi, defnydd, a diffiniadau ac esboniadau i gefnogi gwybodaeth sylfaenol.
Pa mor ddibynadwy yw’r adnodd yma?
Cwmni technoleg sydd â diddordeb yn y greadigaeth o raglenni deallusrwydd artiffisial yw Intel. Mae’r gwestai sy’n siarad ar y podlediadau yn arbenigwyr deallusrwydd artiffisial.